Rule, Britannia!

Cân genedlaethol Brydeinig wladgarol yw "Rule, Britannia!", gyda geiriau'r gerdd "Rule, Britannia" gan James Thomson a cherddoriaeth gan Thomas Arne.

Cyfansoddwyd y dôn yn wreiddiol yn 1740 fel rhan o Fasque gan Arne wedi'i seilio ar fywyd y Brenin Alfred. Datblygodd poblogrwydd y gan yn syth, a daeth yn gyffredin i chware'r gan yn annibynnol o'r Masque gwreiddiol. Daeth yn hynod berthnasol mewn cysylltiad a thwf yr Ymerodraeth Brydeinig a meistrolaeth Brydeinig dros y môr.

Yn draddodiadol, perfformir y gan gan unawdydd fel rhan o fedli o alawon Prydeinig yn ystod Noson ola'r Proms. Yn ddiweddar mae'r arfer yma wedi newid i raddau yn dilyn cyfnod Leonard Slatkin fel arweinnydd Cerddorfa Symffoni y BBC, gyda'r don nawr yn cael ei pherfformio heb unawdydd. Un unawdydd enwog i berfformio'r gan yw Bryn Terfel yn ystod tymor 1994. Roedd ei berfformiad yn nodedig am gynnwys fersiwn Gymraeg o'r pennill cyntaf, yn lle'r trydydd pennill Saesneg.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne